Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2016
Amser: 09.06 -
10.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3348
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
William Powell AC (Cadeirydd) Elin Jones AC (yn lle Bethan Jenkins AC) Joyce Watson AC |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Gill Eveleigh (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF182KB) Gweld fel HTML (147KB).
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins a Russell George.
Dirprwyodd Elin Jones ar ran Bethan Jenkins yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebwyr at y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i gael eu barn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar lythyr y Gweinidog.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at:
· Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd; a'r
· Byrddau Iechyd Lleol i gael eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar lythyr y Gweinidog.
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:
· Ofyn i'r deisebydd ystyried ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft fel y gellir ystyried ei safbwynt yn y broses honno;
· Gofyn i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (CCLlL) ystyried barn y deisebwr pan fydd yn ystyried y Bil drafft; a
· Chau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael ymateb i sylwadau'r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a gafwyd gan awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chytunwyd i ysgrifennu atynt eto i ofyn am y newyddion diweddaraf am y sefyllfa.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i:
· groesawu ei ymateb;
· gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor o fanylion pellach yr ymgynghoriad arfaethedig fel y gall y deisebwyr gyfrannu ato; a
· cheisio cael sicrwydd y bydd yr ymgynghoriad yn ymgynghoriad cyhoeddus i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael y cyfle i gyfrannu.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb, o ystyried yr ymgysylltiad cadarnhaol rhwng y Gweinidog a'r deisebwyr.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb gan ei bod, mewn gwirionedd, wedi cyflawni ei diben.
· Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb o ystyried bod yr awdurdodau perthnasol wedi mynd i'r afael â'r materion a sbardunodd y ddeiseb wreiddiol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod y Llywodraeth wedi derbyn y ddeiseb mewn egwyddor; y camau sy'n cael eu cymryd drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, ac nad yw'r bobl ifanc a oedd yn rhan o gyflwyno'r ddeiseb yn rhan o hyn bellach; i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i'w chau.
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunwyd i gau’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn iddi ymateb i i sylwadau'r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod prif amcanion y ddeiseb wedi'u cyflawni, cytunwyd i'w chau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb, ar gais y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebwyr, ynghyd â deunydd ychwanegol a ddarparwyd, at y Gweinidog a gofyn iddi eu rhannu â PHE-CRCE, cyn penderfynu a ddylid cau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i rannu sylwadau'r deisebydd â'r Gweinidog ac yna ystyried cau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan y rhan fwyaf o'r camau gweithedu y gwneir cais amdanynt yn y ddeiseb wedi'u cyflawni, cytunwyd:
· i gau'r ddeiseb; ac
· wrth wneud hynny, ddwyn sylwadau'r deisebydd i sylw'r Gweinidog.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunwyd i gau’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a chytunwyd i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Glodi a gan Blant yng Nghymru a chytunwyd i:
· Gau'r ddeiseb; ac
· Wrth wneud hynny, gofyn i Plant yng Nghymru ymateb i sylwadau diweddaraf y deisebwyr.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.21.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gweithredu dros Blant ynghylch y ddeiseb hon a P-04-643 Arbed Dechrau'n Deg yng Nghroeserw a chytunwyd i gau'r ddwy ddeiseb.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.23.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn diolch iddo am ei ymgysylltiad hyd yn hyn a gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf o ran unrhyw ymatebion, yn enwedig gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· Ofyn i'r Pwyllgor Cyllid ystyried pwyntiau pellach y deisebwyr; a
· Chau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at y Llywydd a'r Prif Weinidog yn unol â thermau cais y deisebydd.